Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru’n disgrifio penderfyniad cwmni dur Tata i dorri 2,800 o swyddi fel achos o “lofruddio tref y dur”.
Maen nhw’n galw ar lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i flaenoriaethu anghenion Port Talbot yn y cyfnod cyn yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.
Daw hyn ar ôl i’r cwmni gyhoeddi eu bwriad i symud i ddull cynhyrchu mwy ecogyfeillgar, gan gau ffwrneisi chwyth ar y safle.
Mae pryderon y gallai hyn arwain at gau’r safle’n llwyr yn y dyfodol, fyddai’n cael effaith “ddinistriol” ar y dref a’r ardal gyfagos.
Mewn cyfarfod diweddar o Henaduriaeth Morgannwg Llundain, galwodd yr aelodau ar i gynrychiolwyr etholedig yn San Steffan a Bae Caerdydd wneud llawer mwy dros y gweithwyr dur, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.
‘Sylfaen bywyd a ffyniant’
Yn ôl Margaret Jones, un o drigolion Port Talbot sy’n aelod o’r Henaduriaeth, mae’r gwaith dur yn “sylfaen” i fywydau a ffyniant pobol y dref.
“Ers degawdau rydym wedi dioddef llygredd o’r ffatri ar sail cadw swyddi parhaol a chyflogau da,” meddai.
“Teimlwn wedi ein siomi’n arw gan Tata a llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru.
“Gallai’r effaith ar filoedd o weithwyr a’u teuluoedd fod yn ddifaol, a theimlwn y dylid gwneud llawer mwy i arbed swyddi ac achub y dref.
“Mae Port Talbot yn adnabyddus ledled y byd am ei ddur a dywedir mai dur Prydain yw’r gorau yn y byd.
“Yn syml, mae hyn yn ymwneud ag arian, ac mae Tata yn chwyddo’i elw drwy ddefnyddio dur israddol o fannau eraill ac anwybyddu’r arbenigedd sydd yma yng Nghymru.
“Yn ddiweddar, darlledodd BBC Cymru gyfres deledu o’r enw Steeltown Murders am lofruddiaethau creulon ym Mhort Talbot yn y 1970au.
“Rwyf wedi bod yn meddwl am y rhaglen honno ac yn teimlo bod yr hyn maen nhw’n ei wneud i Bort Talbot nawr yn lladd bywoliaeth a gobaith pobol.
“Dyma lofruddio tref y dur.”
Cynnydd yn y galw am fanciau bwyd
Ers cyhoeddi penderfyniad Tata, mae Margaret Jones, sy’n gwirfoddoli gyda gwasanaeth gwirfoddol sy’n cael ei gefnogi gan eglwysi’r dref, yn dweud ei bod hi wedi sylw ar gynnydd yn y defnydd o fanciau bwyd lleol.
“Pan oeddwn i’n ferch fach, arferai fy nain sôn am ddyddiau’r dirwasgiad mawr, pan oedd tlodi yn rhemp a’r unig ffordd y gallai llawer o bobol gael bwyd oedd drwy ddefnyddio’r ceginau cawl.
“Roedd hi’n arfer dweud wrtha i, “Margaret, bydd yn ddiolchgar bod y ceginau cawl hyn yn perthyn i’r gorffennol ac na weli di’r dyddiau hynny byth eto”.
“Mae’n ymddangos i mi nawr mai’r banciau bwyd yw’r ceginau cawl newydd.
“Mae llawer o bobol sy’n gweithio yn methu fforddio byw, ac ni all hyn fod yn iawn mewn cymdeithas lewyrchus fel ein cymdeithas ni.
“Fel Cristnogion, rydyn ni’n dilyn yn ôl traed Iesu a ddysgodd ni i garu ein gilydd yn ymarferol ac a roddodd i ni weledigaeth ar gyfer cymdeithas lle mae pawb yn gyfartal.
“Rydyn ni’n chwarae ein rhan ond mae hefyd angen i’r llywodraeth a diwydiant roi eu diddordebau eu hunain o’r neilltu a meddwl am anghenion y dref hon.”