Mae arweinydd Plaid Cymru wedi bod yn ceisio apelio at bleidleiswyr Llafur drwy gynnig y blaid fel “llais blaengar” a “dewis amgen” i’r Blaid Lafur.
Ysgrifennodd Rhun ap Iorwerth at gefnogwyr Llafur ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 11), yn dweud nad yw’r Blaid Lafur wedi cynnig “y math o newid radical sydd ei angen” ar ôl 14 blynedd o reolaeth Geidwadol.
Dair wythnos ers i’r ymgyrch etholiadol ddechrau, mae Plaid Cymru yn dweud bod Llafur wedi methu cynnig syniadau “uchelgeisiol” i ailadeiladu’r economi na sefyll i fyny i Nigel Farage ar fater mewnfudo.
‘Dim newid radical’
Dywed Plaid Cymru fod pleidlais drostyn nhw yn bleidlais dros ddwyn Llywodraeth Llafur y dyfodol i gyfrif, ac i sicrhau nad yw anghenion Cymru’n cael eu hanwybyddu yn San Steffan.
“Yn 1997, sicrhaodd Tony Blair fwyafrif ysgubol,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Roedd ymdeimlad o newid gwirioneddol.
“Fwy na chwarter canrif yn ddiweddarach, rydym yn wynebu sefyllfa debyg lle mae Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn ymddangos yn anochel ar ôl 14 blynedd o weinyddiaeth Dorïaidd drychinebus.
“Fodd bynnag, mae ymdeimlad amlwg nad yw’r newid gaiff ei gynnig gan Lafur yn gyfystyr â’r math o newid radical sydd ei angen arnom.
“Nid oes gan Syr Keir Starmer y syniadau beiddgar, uchelgeisiol sydd eu hangen i ailadeiladu ein heconomi ar ôl anhrefn Liz Truss, na’r dewrder i wrthwynebu celwydd Nigel Farage am fewnfudo, na chwaith y tosturi i ddileu’r cap ar fudd-daliadau dau blentyn.”
Ychwanega fod pob arolwg barn yn dangos cefnogaeth sylweddol i’r Blaid Lafur, a dywed Rhun ap Iorwerth ei fod yn gyfle i ddwyn y Llywodraeth Lafur newydd i gyfrif mewn ffordd adeiladol.
Mae’r arolwg barn diweddaraf yn dangos bod dros 40% o bleidleiswyr Cymru’n bwriadu cefnogi’r Blaid Lafur.
“Os ydych yn credu yng ngwerthoedd cyfiawnder cymdeithasol, heddwch rhyngwladol, tegwch economaidd i Gymru ac yn cefnogi hawl lleisiau lleol i gael eu clywed, gofynnaf ichi ystyried cefnogi Plaid Cymru yn yr etholiad hwn,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Po fwyaf o Aelodau Seneddol Plaid Cymru sydd gennym yn San Steffan, y mwyaf tebygol yw hi y bydd llais Cymru yn cael ei glywed ac nad yw anghenion ein cenedl yn cael eu hanwybyddu mwyach.”