Becky Watts
Mae ail berson wedi cael ei chyhuddo o lofruddio’r ferch 16 oed Becky Watts, a ddiflannodd o’i chartref ym Mryste ym mis Chwefror.

Roedd ymgyrch chwilio enfawr i ddod o hyd i’r ferch ac fe gafodd ei llysfrawd Nathan Matthews ei gyhuddo o’i llofruddiaeth ar ôl i ddarnau o gorff dynol gael eu darganfod mewn tŷ.

Dywed yr heddlu bod Matthews wedi cael ei gyhuddo o gyfres o droseddau eraill erbyn hyn.

Mae ei gariad Shauna Hoare, 21, hefyd wedi cael ei chyhuddo o lofruddio, yn ogystal â gwyrdroi cwrs cyfiawnder, cynllwynio i ac atal claddedigaeth gyfreithlon.

Yn wreiddiol, roedd hi wedi ei chyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder yn unig.

Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf bod y ddau hefyd yn cael eu cyhuddo o fod ag arf gwaharddedig yn eu meddiant a phedwar achos o greu dyluniau anweddus o blant.

Mae Nathan Matthews wedi cael ei gyhuddo o achosion o ymosodiadau rhywiol a voyeuriaeth yn ymwneud ag achosion eraill.

Bydd y ddau yn ymddangos yn Llys y Goron Bryste ar 4 Awst.