Mae cwmni dodrefn yng ngogledd Cymru wedi cyhoeddi heddiw ei fod wedi agor ffatri newydd gan greu 220 o swyddi newydd.

Daw’r newydd gan Westbridge Furniture Designs yn Sir y Fflint wedi iddyn nhw ennill cytundeb 5 mlynedd gyda Ikea.

Bellach, mae Westbridge yn cynhyrchu saith cyfres o ddodrefn i Ikea, yn eu plith soffas, cadeiriau breichiau, gwelyau soffa a soffas cornel.  Hefyd, mae’n cyflenwi’r un math o ddodrefn i fanwerthwyr eraill.

Cafodd y cwmni £488,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i greu 153 o swyddi newydd ond maen nhw wedi gwneud yn well na’r targed gwreiddiol gan greu 220 o swyddi.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, bod yr arian gan Lywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi’n bosibl i’r cwmni agor cyfleuster newydd.

Meddai: “Rwy’n llongyfarch Westbridge ar ddatblygu mor gyflym ac am greu swyddi hefyd.  Mae’n esiampl wych i ddiwydiant gweithgynhyrchu Cymru ac yn hwb economaidd pwysig arall i Barc Menter Glannau Dyfrdwy.”

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, William Graham AC, bod y newydd yn “dystiolaeth bellach” o’r adfywiad economaidd dan y Ceidwadwyr yn San Steffan.

Meddai William Graham: “Bydd y swyddi newydd yn hwb i’r rhanbarth, yn arbennig gan eu bod yn dod mor fuan ar ôl i Aldi gyhoeddi nifer fawr o swyddi ar draws y gogledd.

“Mae hyn i gyd yn newyddion da ar gyfer y sectorau manwerthu a gweithgynhyrchu, ac yn amlygu’r diwygiad economaidd o dan Lywodraeth y DU.”