Un o'r ffoaduriaid ger Gwlad Groeg yn cael eu hachub
Mae Gwylwyr y glannau Gwlad Groeg yn dweud eu bod wedi achub mwy na 1,000 o ffoaduriaid  o’r Môr Aegeaidd rhwng bore dydd Gwener a bore Llun.

Dywedodd yr awdurdodau bod 1,161 o bobl wedi cael eu hachub mewn 37 o gyrchoedd chwilio ac achub oddi ar ynysoedd Samothraki, Lesbos, Chios, Samos, Agathonisi a Farmakonisi.

Mae Gwlad Groeg yn wynebu argyfwng mewnfudo enfawr ac mae mwy na 55,000 o bobl wedi cyrraedd ynysoedd y wlad o arfordir Twrci ers dechrau’r flwyddyn – gyda llawer ohonynt yn ffoi o’r ymladd yn Syria.

Mae Gwlad Groeg wedi galw ar wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd i rannu baich yr argyfwng.