Llys y Goron y Wyddgrug
Bydd y rheithgor yn Llys y Goron y Wyddgrug heddiw’n parhau i ystyried eu dyfarniad yn erbyn saith o ddynion sydd wedi eu cyhuddo o fod yn rhan o grŵp o bedoffiliaid a oedd yn targedu bechgyn ifanc yn ardal Wrecsam yn y 1970au a’r 80au.

Clywodd y rheithgor yn ystod yr achos fod un o’r diffynyddion, y reslwr proffesiynol, Gary Cooke, 64, o Gaerlŷr, yn ganolog yn y grŵp a oedd yn cam-drin bechgyn ifanc mewn partïon, yn ôl yr erlyniad.

Honnir bod y bechgyn wedi cael eu trosglwyddo rhwng y dynion a oedd yn ymweld â chartrefi Cooke yn ardal Wrecsam ar ddechrau’r 80au.

Mae un o’r dioddefwyr yn honni ei fod wedi cael ei gam-drin yn rhywiol gan y saith diffynnydd pan oedd rhwng 12 a 15 oed.

Mae dioddefwr arall yn dweud ei fod mor ifanc ag 11 a 12 oed.

Mae’r saith dyn yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Diffynyddion

–          Mae Gary Cooke, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Mark Grainger, wedi’i gyhuddo o 11 cyhuddiad o ymosod yn anweddus, pedwar cyhuddiad o ymosodiad rhywiol difrifol, a dau gyhuddiad o anweddustra gyda phlentyn. Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud a phedwar person.

–          Mae Roger Griffiths, 76, o Wrecsam, yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar un person.

–          Mae’r cyn-dafarnwr David Lightfoot, 72, o Ellesmere Port yn Sir Gaer wedi’i gyhuddo o chwe ymosodiad anweddus, tri ymosodiad rhywiol ac un cyhuddiad o anweddustra gyda phlentyn, mewn perthynas ag un person.

–          Mae Keith Stokes, 62, a oedd yn bennaeth ar ladd-dy, o Farndon, yng Nghaer, wedi’i gyhuddo o bedwar ymosodiad anweddus, dau ymosodiad rhywiol difrifol, ac un cyhuddiad o anweddustra gyda phlentyn, mewn perthynas ag un person.

–          Mae’r cyn DJ radio lleol, Roy Norry, 54, yn wynebu chwe chyhuddiad o ymosod yn anweddus a dau ymosodiad rhywiol difrifol, yn ymwneud a dau berson.

–          Mae’r cyn gyrrwr bws, George Phoenix, 63, o Wrecsam wedi’i gyhuddo o un ymosodiad anweddus.

–          Mae Edward Huxley, 70, cyn was sifil o Cookham, yn Berkshire yn wynebu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus, mewn perthynas ag un person.