Nigel a Stacey Henderson
Mae teulu dyn, a oedd yn ddifrifol wael, a’i wraig wedi dweud eu bod wedi torri eu calonnau ar ôl clywed am eu marwolaeth.

Cafwyd hyd i gyrff Nigel a Stacey Henderson yn eu cartref yng Nghas-gwent fore dydd Gwener.

Dywed ditectifs nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad ond bod eu hymchwiliad i farwolaethau’r ddau yn parhau.

Nid yw achos eu marwolaeth wedi cael ei gadarnhau hyd yn hyn, meddai Heddlu Gwent.

Cafodd yr heddlu eu galw i gartref y cwpl yng Nghlos Ruffets tua 11.50yb ar 19 Mehefin lle cafwyd hyd i’w cyrff.

Mewn datganiad dywedodd teulu Nigel Henderson, 52: “Fe fydd plant, chwaer, dau frawd a holl ffrindiau Nigel yng Nghas-gwent a’i dref enedigol ym Mryste yn gweld ei eisiau’n fawr.”

Dywedodd teulu Stacey Henderson, 35, bod eu merch “arbennig” wedi cael ei “chymryd o’r byd hwn yn rhy fuan. Fe fydd hi yn ein calonnau am byth.”