Mae beiciwr wedi cael ei ladd mewn gwrthdrawiad â lori yn Llundain – yr wythfed beiciwr i farw mewn damwain o’r fath yn y brifddinas eleni.

Digwyddodd y ddamwain yn agos at Fanc Lloegr y bore ma pan wnaeth beic y ddynes wrthdaro â lori tipio.

Bu farw’r ddynes yn y fan a’r lle. Mae’r gyffordd ble ddigwyddodd y ddamwain yn parhau i fod wedi cau.

Mae’r farwolaeth yn dilyn digwyddiad yn ystod oriau mân ddoe pan fu farw beiciwr 50 mlwydd oed mewn damwain gyda char yn Harrow, yng ngogledd orllewin Llundain.

Cyn hynny roedd chwe beiciwr arall wedi marw yn Llundain eleni – gyda phob un digwyddiad yn ymwneud a lorïau.