Eglwys Gadeiriol Llandaf
Fe fydd ogof yn Llandudno yn elwa o gronfa gwerth bron i £300,000 gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i sefydlu er mwyn adfer cofebion a henebion gwerthfawr.

Mae Ogof Kendricks yn Llandudno, Sir Conwy yn cael ei ystyried fel un o’r ogofau pwysicaf yn Oes y Cerrig yng Ngogledd-orllewin Ewrop ond bu pryder ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol o amgylch y safle.

Ar ôl archwilio’r ogof, fe ddaeth i’r amlwg ei fod mewn cyflwr annymunol ac yn llawn gwastraff fel hen nodwyddau.

Bydd grant o bron i £33,500 yn ariannu’r gwaith o glirio’r ogof ac yn ei ddiogelu rhag difrod pellach drwy osod rhwyllau diogelwch gyda drysau y gellir eu cloi.

Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i greu model digidol 3D o’r ogof i’w arddangos yn Amgueddfa Llandudno a Chanolfan Ymwelwyr Pen y Gogarth er mwyn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o’r ogof a’i darddiad cyn-hanesyddol.

‘Adrodd hanes ein gorffennol’

“Mae henebion i’w gweld ar hyd ein tirwedd ar draws Cymru sy’n llywio ein cymunedau ac yn adrodd hanes ein gorffennol,” meddai Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

“Heb y mesurau gwarchod a rheoli cywir, gallem golli’r henebion gwerthfawr hyn am byth.”

Ymhlith rhai o’r prosiectau eraill a gafodd grantiau y mae gwaith i gynnal mynediad i’r cyhoedd i fynydd Owain Glyndŵr, gwaith i gefnogi atgyweiriadau strwythurol yn Eglwys Gadeiriol Llandaf a gwaith i warchod Cloc a Chlychau Cofeb Rhyfel Castell-nedd.