Y ty ym Mhencoed lle cafwyd hyd i gorff Rita Stephens
Mae dyn sydd wedi’i  gyhuddo o lofruddio dynes yn Tonteg, Pencoed dros y penwythnos wedi ymddangos yn y llys.

Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Pen-y-bont at Ogwr, fe wnaeth Mark Lewis Stephens, 43, gadarnhau ei enw yn unig. Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd fis nesaf.

Mae’n cael ei gyhuddo o lofruddio Rita Stephens, 67, ac o wneud bygythiadau i ladd. Honnir bod y llofruddiaeth wedi digwydd rhwng 19 a 21 Mehefin.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Rita Stephens mewn tŷ ym mhentref Tonteg ddydd Sadwrn a’r gred yw bod y llofruddiaeth wedi digwydd rhwng 19 a 21 Mehefin.

Nid oes manylion am berthynas Mark Lewis Stephens â Rita Stephens ar hyn o bryd, yn ôl yr heddlu.

“Mae’r digwyddiad hwn wedi creu sioc a thristwch yn y gymuned leol ond fe hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth ers dydd Sadwrn,” meddai’r Prif Arolygydd Kath Pritchard.