Mae uned heddlu newydd wedi cael ei sefydlu er mwyn ceisio dod o hyd i gyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio gan frawychwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Bydd yr uned, drwy weinyddiad asiantaeth Europol, yn cael ei ddefnyddio’n benodol ar gyfer dod o hyd i ac atal cyfrifon sy’n cael eu rheoli gan IS ar gyfer recriwtio pobl.

Bwriad Europol, mewn cydweithrediad â chwmnïau cyfryngau cymdeithasol, yw targedu 40,000-50,000 o gyfrifon sy’n cael eu defnyddio gan eithafwyr IS, gyda’r gobaith o gyfrifon newydd o fewn dwy awr.

‘Radicaleiddio’r ifanc ar-lein’

Mae’r penderfyniad i greu uned arbennig o fewn y cyfryngau cymdeithasol yn un o weithredoedd diweddar Europol i ddelio â’r broblem gynyddol o bobl ifanc yn cael eu targedu’n ddyddiol gan frawychwyr Islamaidd ar-lein.

Honnir  fod un o hunan-fomwyr ieuengaf Prydain, Talha Asmal, wnaeth ffrwydro bom mewn cerbyd tra’n ymladd dros IS yn Irac, wedi cael ei ddenu gan yr eithafwyr drwy’r cyfryngau cymdeithasol tra roedd yn ei gartref yn Dewsbury, Gorllewin Swydd Efrog.

Mae’n debyg bellach fod o leiaf 5,000 o ddinasyddion o’r UE wedi teithio i diriogaethau’r Wladwriaeth Islamaidd gyda 700 o ddinasyddion o Brydain wedi teithio i Irac a Syria er mwyn ymuno ag IS.