Jane Hutt
Mae’r Gweinidog Cyllid a Busnes wedi cyhoeddi prosiect gwerth £11 miliwn i gefnogi busnesau cymdeithasol ledled Cymru, gan greu tua 500 o swyddi.

Dros y pum mlynedd nesaf, fe fydd yr arian o Ewrop (£6m) a Llywodraeth Cymru (£5m) yn cael ei ddefnyddio i gynnig cymorth arbenigol i tua 500 o fusnesau a mentrau er mwyn iddyn nhw ehangu.

Bydd hefyd yn helpu elusennau i sefydlu canghennau masnachu er mwyn datblygu syniadau, ac yn cefnogi busnesau a sefydliadau sydd eisiau mabwysiadu modelau cydweithredol neu berchnogaeth gweithwyr.

Daw lansiad y prosiect Busnes Cymdeithasol Cymru yn dilyn adroddiad diweddar  gan Gomisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, oedd yn datgelu bod y sector busnes cymdeithasol yn ychwanegu tua £1.7 biliwn o werth at economi Cymru ac yn cefnogi tua 38,000 o swyddi yng Nghymru.

Buddsoddiad

“Mae bron £2 biliwn o arian Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi yng Nghymru dros y saith mlynedd nesaf, gan ychwanegu gwerth at nodau Llywodraeth Cymru ar gyfer cryfhau economi a marchnad lafur Cymru, a helpu busnesau i ehangu a chreu swyddi,” meddai’r Gweinidog Cyllid a Busnes Jane Hutt.

“Mae’r sector busnes cymdeithasol yn chwarae rôl bwysig o ran cefnogi economïau lleol, yn enwedig mewn ardaloedd dan anfantais.”

Ychwanegodd Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Gydweithredol Cymru: “Rydyn ni’n credu bod potensial mawr i fusnesau cymdeithasol dyfu ymhellach yng Nghymru. Maen nhw’n sylfaen i’r economi ehangach ac yn aml yn llenwi’r meysydd nad yw’r sector cyhoeddus yn fodlon eu hystyried ac nad yw’r sector cyhoeddus yn gallu eu cefnogi.