Mae person wedi marw ar ôl cael ei daro gan drên yn Nhre-gŵyr y bore ma.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru fod trenau rhwng Caerfyrddin ac Abertawe wedi eu gohirio am hyd at awr yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd yr heddlu trafnidiaeth eu galw toc cyn 9 fore heddiw a bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.
Nid yw’r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus.