Mae dau o blant wedi marw ar ôl i gar daro grŵp o gerddwyr yn Birmingham ddoe.

Dywedodd yr heddlu fod y merched, chwech a saith mlwydd oed, wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad tua hanner dydd ddoe, ond eu bod nhw wedi marw yn ddiweddarach.

Mae dyn lleol 34 mlwydd oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus.

Dywedodd yr heddlu fod merch 12 mlwydd oed a bachgen 13 mlwydd oed yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ac mae dynes 39 mlwydd oed yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol.