Mae’r Mail on Sunday wedi datgelu bod yr Arglwydd Janner – sy’n dioddef o ddementia – wedi ymweld â San Steffan ar ei ben ei hun sawl gwaith ers i’r awdurdodau benderfynu peidio’i holi ar amheuaeth o gyflawni troseddau rhyw hanesyddol.

Aeth yr Arglwydd Janner, y cyn-Aelod Seneddol dros Gaerlŷr, i San Steffan dair gwaith yn dilyn y penderfyniad.

Roedd yr heddlu’n ei amau o ymosod yn rhywiol ar fwy na deuddeg o fechgyn.

Ond penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio dwyn achos yn ei erbyn ar sail ei ddementia.

Yn dilyn ymchwiliad gan y papur newydd, daeth i’r amlwg fod yr Arglwydd Janner wedi gyrru ar ei ben ei hun i Dŷ’r Arglwyddi, ei fod wedi dweud wrth yr awdurdodau ei fod yn San Steffan yn swyddogol er bod ei ymweliad y tu allan i’r cyfnod seneddol, a’i fod wedi llofnodi siec i dalu costau parcio yn San Steffan.

Yn dilyn y penderfyniad i beidio’i erlyn, dywedodd y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Alison Saunders y byddai wedi cael ei gyhuddo o 22 o ymosodiadau anweddus yn erbyn naw o fechgyn, ond fod ei ddementia yn ei atal rhag sefyll ei brawf.

Mae’r aelod seneddol Simon Danczuk, oedd yn allweddol yn y broses o enwi Cyril Smith fel pedoffil, wedi dweud bod yr honiadau am ymweliadau’r Arglwydd Janner yn “syfrdanol”.