Mae miloedd o bobol yn cystadlu yn rasys beicio Etape Eryri heddiw.

Dechreuodd y cyfan yn Sgwâr Caernarfon am 7 o’r gloch y bore ma, ac mae 3,000 o bobol yn cystadlu mewn amryw rasys yn ystod y dydd.

Dechreuodd y ras fwyaf, yr Xtrem, am 7 o’r gloch, lle mae’r cystadleuwyr yn mynd i’r afael â llwybr 226 milltir o hyd.

Ar yr un pryd, fe gychwynnodd y Ras Fawr 103 milltir.

Dechreuodd y Ras Ganolig 76 milltir o hyd am 8 o’r gloch, tra bod y Ras Fach 47 milltir wedi dechrau am 9 o’r gloch.

Dechreuodd y Ras i’r Teulu (6 milltir) am 10 o’r gloch.

Roedd y rasys i gyd yn dechrau ger Castell Caernarfon.

Mae mannau gwylio ar gyfer Etape Eryri ym Metws-y-Coed a Llanberis.

Bydd gwobrau arbennig hefyd yn cael eu rhoi i’r dyn a’r ddynes sydd gyflymaf yn teithio i fyny Drws-y-Coed.

Mae cwmni creision Jones o Gymru wedi dylunio crysau-T arbennig ar gyfer yr achlysur.