Does dim newid yng ngharfan Morgannwg wrth iddyn nhw herio Swydd Sussex yn y T20 Blast yn y Swalec SSE heddiw.

Mae Morgannwg yn anelu am eu trydedd buddugoliaeth o’r bron ar eu tomen eu hunain, yn dilyn llwyddiannau yn erbyn Swydd Middlesex a Gwlad yr Haf.

Mae disgwyl i’r prif hyfforddwr Toby Radford gadw ffydd gyda’r agorwyr Jacques Rudolph a Craig Meschede.

Morgannwg oedd yn fuddugol oddi ar y belen olaf pan gyfarfu’r ddwy sir yng Nghaerdydd yn y gystadleuaeth hon y tymor diwethaf.

Ar drothwy’r ornest, dywedodd y bowliwr cyflym llaw chwith, Graham Wagg: “Ry’n ni wedi dangos tipyn o gymeriad y tymor hwn, hyd yn oed wrth golli yn erbyn Swydd Essex a nawr ry’n ni’n mynd i mewn i’r ornest yn erbyn Siarcod Swydd Sussex, y mae’n rhaid i ni ei hennill.

“Ry’n ni wedi cael diwrnod i ffwrdd i ddychwelyd i Gaerdydd ac fe fyddwn ni’n barod amdani unwaith eto ac yn bwrw iddi’n galed yn erbyn Swydd Sussex.”

Mae Wagg yn sylweddoli pa mor gystadleuol fydd yr ornest heddiw.

“Mae Swydd Sussex yn llawn cricedwyr da, maen nhw’n uned gryf yn y rhan fwyaf o fformatiau, ond does dim rheswm pam na allwn ni eu curo nhw, ry’n ni wedi curo rhai o’r goreuon yn y wlad mor belled y tymor hwn felly fe awn ni allan ddydd Sul a rhoi o’n gorau.”

Bydd yr ymwelwyr heb Jimmy Anyon, Lewis Hatchett, Chris Jordan ac Ajmal Shahzad, ac fe fydd Chris Nash yn cael prawf ffitrwydd y prynhawn yma.

Mae’r Awstraliad George Bailey yn ymddangos i’r ymwelwyr am y tro cyntaf ers disodli Mahela Jayawardene.

Carfan 13 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), C Cooke, D Cosker, M Hogan, C Ingram, D Lloyd, C Meschede, W Parnell, A Salter, R Smith, G Wagg, M Wallace, B Wright.

Carfan 14 dyn Swydd Sussex: G Bailey, W Beer, B Brown, C Cachopa, H Finch, M Hobden, C Liddle, M Machan, T Mills, C Nash, O Robinson, L Wright (capten), M Yardy, Ashar Zaidi.