Mae Cymru’n herio Tsieina B ar eu tomen eu hunain yn rownd gyn-derfynol Cwpan Snwcer y Byd yn Wuxi heddiw.

Cyrhaeddodd Mark Williams a Michael White y rownd gyn-derfynol wedi iddyn nhw guro Gwlad Thai o 4-1 yn rownd yr wyth olaf.

Heddiw, maen nhw’n herio Zhou Yuelong a Yan Bingtao, oedd wedi curo Awstralia yn rownd yr wyth olaf.

Dydy Cymru ddim wedi colli eto yn y gystadleuaeth.

Cafodd y ffefrynnau a deiliaid Cwpan y Byd, Tsieina A – Ding Junhui a Xiao Guodong – eu curo 4-1 gan yr Alban (John Higgins a Stephen Maguire) yn rownd yr wyth olaf.

Yn yr ornest arall yn y rownd gyn-derfynol, mae’r Alban wedi curo India o 4-3.

Yn cystadlu dros India roedd Pankaj Advani ac Aditya Mehta, yr unig chwaraewr Indiaidd proffesiynol.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yn ddiweddarach heddiw.

Canlyniadau Cymru hyd yma:

5-0 v Pacistan

4-1 v Gwlad Pwyl

4-1 v Qatar

4-1 v Gogledd Iwerddon

3-2 v Awstralia

4-1 v Gwlad Thai