Doedd 70 gan y batiwr llaw chwith, Colin Ingram ddim yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Forgannwg dros Swydd Essex yn Chelmsford neithiwr.

Ar ôl galw’n gywir a gwahodd Swydd Essex i fatio’n gyntaf, dechreuodd Morgannwg yr ornest mewn modd positif, wrth i Wayne Parnell gipio wiced Mark Pettini a’r cyfanswm yn 7-1 yn yr ail belawd.

Digon cyson oedd cyfradd Swydd Essex wedi hynny, ond fe gipiodd Morgannwg ddwy wiced ychwanegol wrth i’r tîm cartref lithro i 52-3 ar ôl colli Tom Westley a Jesse Ryder.

Sicrhaodd Ravi Bopara (52) a Nick Browne (38) y byddai sgôr Swydd Essex yn barchus ac roedd hi’n ymddangos fel pe byddai 170 yn gyfanswm cystadleuol.

Ond doedd hynny ddim yn ddigon i’r chwaraewr amryddawn ymosodol, Graham Napier (27).

Tarodd Napier bedwar chwech oddi ar Graham Wagg yn y belawd olaf ond un ac fe gyrhaeddodd Swydd Essex 187-7 oddi ar eu hugain pelawd.

Gyda nod o 188 i ennill, dechreuodd batiad Morgannwg yn y modd gwaethaf posib wrth iddyn nhw golli Craig Meschede heb iddo sgorio.

Collodd Morgannwg eu hail wiced yn fuan wedyn, y capten Jacques Rudolph yn ildio’i wiced i gyn-fowliwr Morgannwg, Shaun Tait a’r cyfanswm yn 31-2.

Yn dilyn ei ganred dwbl yn y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Surrey ddechrau’r wythnos, cafodd Graham Wagg ei ddyrchafu i bumed yn y rhestr fatio, ac fe adeiladodd Wagg ac Ingram bartneriaeth o 52 i roi Morgannwg ar ben ffordd.

Collodd Wagg ei wiced am 41 ac er bod Colin Ingram yn dal wrth y llain, cipiodd Tait a Bopara dair wiced yr un i selio ffawd y Cymry.

16 o rediadau oedd ynddi yn y pen draw, ac mae’r canlyniad yn dod â rhediad di-guro Morgannwg i ben.

Cwta 36 awr sydd gan Forgannwg i baratoi ar gyfer eu gornest nesaf, wrth iddyn nhw herio Swydd Sussex yn y Swalec brynhawn fory.