Yn dilyn tair gornest ddi-guro yn ail adran y Bencampwriaeth, mae sylw Morgannwg yn troi at gystadleuaeth y T20 Blast wrth iddyn nhw deithio i Chelmsford i herio Swydd Essex.

Mae Morgannwg wedi ennill eu tair gornest ddiwethaf yn y gystadleuaeth ugain pelawd ac maen nhw’n anelu bellach am le yn rownd yr wyth olaf.

Am y profiad o deithio i Chelmsford, dywedodd is-hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft: “Gall fod yn brofiad annifyr ar nos Wener.

“Maen nhw’n gefnogwyr gwych i’r tîm cartref, ond yn anaml iawn y byddan nhw’n cymeradwyo’r gwrthwynebwyr a’n jobyn ni fydd eu tawelu nhw drwy chwarae criced gwell – ry’n ni wir yn edrych ymlaen at yr her.

“Mae gyda nhw gricedwyr rhyngwladol profiadol. Mae gyda chi Jesse Ryder, un o’r batwyr mwyaf dinistriol yn y gêm. Mae Ravi Bopara yn chwaraewr undydd o’r radd flaenaf, ac ry’n ni’n gwybod y gall James Foster gau pen y mwdwl ar y batiad.

“Yn amlwg, fe wnawn ni ein gwaith cartref arnyn nhw ond – a defnyddio’r hen ystrydeb – mae angen i ni ganolbwyntio arnon ni ein hunain a pheidio poeni’n ormodol am y gwrthwynebwyr.”

Wrth drafod y bartneriaeth agoriadol newydd rhwng y capten Jacques Rudolph a Craig Meschede, ychwanegodd Croft: “Mae hi bob amser yn fanteisiol cael partneriaeth agoriadol dde-chwith i agor y batiad mewn criced undydd, ac mae gallu Craig i ymosod o’r cychwyn wedi talu ar ei ganfed.”

Mae gan Rudolph gyfartaledd o 75 yn y gystadleuaeth hon, ac mae e eisoes wedi taro canred a dau hanner canred.

Carfan 13 dyn Swydd Essex: R ten Doeschate (capten), M Pettini, J Ryder, T Westley, R Bopara, N Browne, J Foster, K Velani, G Napier, D Masters, S Tait, R Topley, A Nijjar

Carfan 12 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), C Meschede, C Ingram, C Cooke, B Wright, M Wallace, G Wagg, W Parnell, D Cosker, D Lloyd, M Hogan, A Salter