Bydd brechlyn yn cael ei gynnig yn erbyn math B o lid yr ymennydd i bob babi yn Lloegr a’r Alban o fis Medi ymlaen.

Dywed arbenigwyr y gallai’r brechlyn achub llawer iawn mwy o fywydau.

Bydd modd i fabanod deufis a phedwar mis gael eu brechu, meddai Adran Iechyd San Steffan a Llywodraeth yr Alban.

Mae’r cynllun newydd yn golygu mai Lloegr a’r Alban yw’r gwledydd cyntaf yn y byd i gynnig rhaglen imiwneiddio yn erbyn llid yr ymennydd B sy’n cael ei hariannu’n gyhoeddus ac yn genedlaethol.

Bydd modd i ddarpar fyfyrwyr 17 a 18 oed, a myfyrwyr 19 i 25 oed, dderbyn brechlyn yn erbyn mathau A, C, W ac Y o fis Awst ymlaen.

Mae oddeutu 1,200 o bobol – babanod a phlant yn bennaf – yn dioddef o fath B o lid yr ymennydd bob blwyddyn yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd gweinidog iechyd cyhoeddus San Steffan, Jane Ellison: “Rwy’n falch iawn y gallwn ni gynnig tawelwch meddwl ychwanegol i deuluoedd gyda’r rhaglenni brechlyn newydd hyn o’r haf ymlaen.

Cafodd y cynlluniau i ddechrau brechu eu cyhoeddi gan Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, Jeremy Hunt ym mis Mawrth, a hynny’n dilyn cytundeb gyda chwmni GlaxoSmithKline.

Mae nifer o elusennau llid yr ymennydd wedi croesawu’r brechlyn, ac fe ddywedodd elusen Meningitis Now ei fod yn “garreg filltir” yn y frwydr yn erbyn y salwch.