Mae disgwyl i’r eglwys yn Ne Carolina lle cafodd naw o bobol eu saethu’n farw ddydd Mercher ail-agor heddiw.

Cafodd aelodau’r clwb Beibl eu lladd wedi i Dylan Roof, 21, esgus fynd i wrando ar y sesiwn cyn tynnu dryll allan a’u saethu.

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu trefnu drwy’r ddinas i gefnogi teuluoedd y rhai fu farw, ac fe fydd clychau dros ddwsin o eglwysi’n canu yn ystod y bore.

Fe fydd pobol hefyd yn ymgynnull i ffurfio ‘cadwyn heddwch’ gyda’u dwylo ar draws bont ar gyrion Charleston.

Yn y cyfamser, mae gwefan wedi ymddangos sy’n rhoi mewnwelediad i feddylfryd Dylan Roof dros gyfnod o amser, a’i fwriad i achosi cyflafan.