Dylid trosglwyddo arian o weinyddu i feddygon a nyrsys yn rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl Plaid Cymru.

Dywedodd y meddyg teulu o Abertawe Dr Dai Lloyd wrth gynhadledd Cyngor Cenedlaethol Plaid Cymru yn Aberystwyth mai’r meddyg teulu yw’r cyswllt cyntaf i’r rhan fwyaf o gleifion.

Dywedodd darpar ymgeisydd y Blaid dros Orllewin Abertawe: “Ond mae’r gyfran o’r gyllideb iechyd a werir ar feddygaeth leol wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diweddar o ddeg y cant id dim ond 7.7%.

“Mae adfer yr hen gyfran o 10 y cant yn hanfodol – er mwyn cyflogi rhagor o feddygon, nyrsys, seicotherapyddion a staff derbyn mewn cymorthfeydd lleol.

“Bydd cwtogi’r baich gweinyddu hefyd yn rhyddhau amser i feddygon weld cleifion a lleihau’r pwysau anferth sy’n rhwystr i feddygon ifanc barhau mewn ymarfer cyffredinol.”

Mae Cyngor Plaid Cymru wedi cymeradwyo dogfen bolisi ddrafft a fydd yn sail i lunio maniffesto’r Blaid ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2016.