Mae babi tair wythnos oed wedi marw, wedi i gi ei frathu.

Mae Heddlu Northumbria wedi cadarnhau i’r babi gael ei gludo i’r ysbyty wedi iddo gael ei frathu gan derier bach yn Sunderland, ond bu’r babi farw yn ddiweddarach.

Mae llefarydd yn dweud fod y ci wedi ei gymryd o’r ty yn Sunderland, ac mai’r teygolrwydd ydi y bydd yn cael ei ddifa.

Mae dyn 30 oed wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac mae ar hyn o bryd yn helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau. Fe gafodd yr heddlu eu galw am 4.15yb heddiw.