Charlotte Church - wedi bod yn llafar iawn yn erbyn toriadau i wasanaethau
Mae protestwyr yn cario placardiau wedi dechrau ymgynnull yn y Ddinas yn Llundain, er mwyn gwrthdystio yn erbyn toriadau llywodraeth San Steffan.
Mae trefnwyr y brotest yn dweud eu bod yn disgwyl cannoedd o filoedd o bobol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig i ddod i’r rali – ac mae disgwyl mai hon fydd y rali fwya’ ers blynyddoedd.
Mae wynebau enwog fel y gantores o Gymraes, Charlotte Church, a’r comedïwr, Russell Brand, wedi addo bod yn bresennol, wrth i’r dorf orymdeithio trwy brifddinas Lloegr heddiw.
Meddai Sam Fairbairn o fudiad People’s Assembly, trefnwyr y brotest: “Dyma fydd dechrau ymgyrch o brotestiadau, streiciau, gweithredu uniongyrchol ac anuffudd-dod sifil led-led y wlad.
“Fyddwn ni ddim yn rhoi’r gorau i brotestio nes fod y toriadau llym yn dod i ben, nes bydd ein gwasanaethau’n dychwelyd i ddwylo’r bobol, ac nes y bydd anghenion y mwyafrif yn dod yn flaenoriaeth.”