Mae awyrennau’r Red Arrows wedi cyhoeddi ar eu tudalen Trydar, na fyddan nhw’n cymryd rhan mewn gwyl ac yn hedfan dros Ynys y Barri brynhawn heddiw.

Mae’r arddangosfa wedi’i chanslo oherwydd y tywydd gwael, ac mae trefnydd y digwyddiad, John Buxton, yn egluro ymhellach fod yr awyrennau wedi methu hedfan i’r ardal o gwbwl i ymarfer chwaith.

Roedd disgwyl i’r tim o awyrennau fod yn rhan o sioe awyr fel rhan o’r digwyddiad ‘Barri a’r Rhyfel’.

Pe bai’r tywydd yn gwella, mae’n bosib y gallai’r Red Arrows hedfan dros yr ardal yn ddiweddarach yn y pnawn, medden nhw.