Mae gwefan WikiLeaks yn y broses o gyhoeddi mwy na 500,000 o ddogfennau diplomyddol Sawdi Arabia.

Mewn gweithred sy’n adleisio cyhoeddi tua 60,000 o ffeiliau llywodraeth yr Unol Daleithiau yn 2010, mae WikiLeaks yn dweud eu bod eisoes wedi rhoi 60,000 o ddogfennau ar y we. Mae’r mwyafrif llethol ohonyn nhw yn yr iaith Arabeg.

Mae nifer o’r dogfennau yn dwyn penawdau gwyrdd ‘Teyrnas Sawdi Arabia’ neu ‘Y Weinyddiaeth Materion Tramor’. Tra bo rhai wedi’u marcio’n ‘Bwysig’ neu’n ‘Gyfrinachol’, mae rhai’n ymddangos fel petaen nhw wedi’u hanfon o lysgenhadaeth Sawdi Arabia yn Washington.

Os ydi’r dogfennau’n rhai dilys, fe allen nhw daflu goleuni ar y modd y mae’r deyrnas – sy’n enwog am ei chyfrinachedd – yn gweithio. Fe allen nhw hefyd ddangos beth sydd wrth wraidd anghydfod hir rhwng y weinyddiaeth yn Riyadh ac Iran; cefnogaeth Sawdi Arabia i wrthryfelwyr yn Syria; ynghyd â’r gefnogaeth i lywodraeth yr Aifft.