Fe allai Ymddiriedolaeth y BBC golli ei rym i ddyfarnu ar achosion lle mae pobol yn dwyn cyhuddiadau o ochri gwleidyddol. Fe allai’r gwaith hwnnw gael ei drosglwyddo i reoleiddiwr newydd, yn ôl y Gweinidog Diwylliant newydd yn San Steffan.
Mae John Whittingdale wedi dweud ei fod eisiau edrych ar rôl yr Ymddiriedolaeth yn plismona’r modd y mae’r BBC yn trin y pleidiau gwleidyddol. Mae pob darlledwr arall, meddai, yn gorfod cydymffurfio â rheolaeth allanol.
Ond ddydd Iau yr wythnos hon, fe rybuddiodd yr Arglwydd Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, na ddylai’r llywodraeth yn San Steffan “sgriwio” y BBC cyn bod Siarter y corff yn cael ei hadnewyddu ac y bydd newidiadau posib i ffi’r drwydded deledu.
“Dw i’n credu bod gan fy mhlaid i reswm tros gwyno am y ffordd y cafodd hi ei thrin yn ystod yr ymgyrch etholiadol,” meddai John Whittingdale. “Ac mae’n beryg iawn fod gan y blaid Lafur, hefyd, reswm tros gwyno ambell waith.
“Mae angen sefydlu system gadarn er mwyn delio gyda hyn,” meddai wedyn. “Mae angen i mi feddwl o ddifri’ ynglyn â’r drefn sydd mewn lle ar hyn o bryd. Mae angen edrych ar yr holl drefn eto, oherwydd mae rheoleiddiwr allan yn gyfrifol am sicrhau fod y darlledwyr eraill yn ddi-duedd.
“Mae hyn i gyd yn rhan o gwestiwn mwy ynglyn â sut y mae’r BBC yn cael ei redeg.”