Mae’r heddlu’n chwilio am yrrwr a fathodd â stopio yn dilyn damwain ffordd.

Mae dyn 20 oed a gafodd ei daro yn y gwrthdrawiad yn Reigate, Surrey, tua 2.45yb heddiw, wedi marw.

Mae Heddlu Surrey yn dweud i’r dyn gael ei daro gan gerbyd llwyd neu o liw golau, tua 2 o’r gloch y bore.

“Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Surrey, “ac mae dyn ifanc wedi colli ei fywyd.

“Fe fyddai’r cerbyd wedi cael ei ddifrodi’n sylweddol yn ystod y gwrthdrawiad, ac rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y car neu’r gyrrwr, i gysylltu â Heddlu Surrey.”