Palas Westminster
Mae trethdalwyr yn wynebu bil o £7.1 biliwn er mwyn atal Palas Westminster rhag dadfeilio oni bai bod ASau yn cytuno i adael, yn ôl adroddiad.

Mae’r astudiaeth gan ymgynghorwyr annibynnol wedi amlygu cyflwr truenus y Senedd – gyda risg o danau neu’r to yn dymchwel.

Mae’r adroddiad yn argymell nifer o opsiynau, gan gynnwys gadael i’r gwleidyddion aros yn yr adeilad eiconig neu eu symud i gyd i leoliad dros dro.

Os ydi’r ASau  yn aros yn yr adeilad, fe fyddai’r gwaith atgyweirio angenrheidiol yn cymryd oddeutu 32 mlynedd i’w gwblhau ar gost o £5.7 biliwn, gyda’r ffigwr o bosib yn cyrraedd £7.1 biliwn.

Y dewis arall yw symud yr ASau a’r arglwyddi ar gost o £4.4 biliwn.  O ganlyniad, bydd y safle enwog o bwysigrwydd treftadaeth byd eang yn cael ei drawsnewid yn adeilad gyda chyfleusterau modern blaengar. Byddai hynny’n cymryd chwe blynedd ac yn costio tua £3.9 biliwn.

Fe fydd pwyllgor ar y cyd o ASau ac arglwyddi yn cael ei ffurfio er mwyn ystyried yr opsiynau.

Does dim disgwyl i’r gwaith ddechrau cyn 2020 ond mae’r adroddiad yn nodi y byddai’n rhaid ceisio dod o hyd i adeilad addas ar gyfer aelodau Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi “yn y dyfodol agos”.