Chwarel Penrhyn
Mae cwmni Welsh Slate wedi rhoi llechen o chwarel Penrhyn i’r gymuned leol i gymryd lle llechen a gafodd ei dwyn o lwybr hynafol yn ardal Bethesda.

Mae’r llechen, sy’n pwyso dros dunnell, yn nodi’r ffin rhwng ward Penrhyn a’r Faenol ar y llwybr o Fynydd Llandegai i Riwlas.

Cafodd y llechen wreiddiol ei dwyn yn gynharach eleni. Bu’r Heddlu yn apelio am wybodaeth am gerbyd 4×4 a gafodd ei weld yn gyrru ar hyd y llwybr ar Ionawr 31.

Dywedodd y Cynghorydd Gwenda Griffith: “Roedd yn drist clywed fod y llechen wreiddiol wedi’i dwyn ac roedd y gymuned leol sy’n cerdded ar hyd y llwybr yn gweld ei heisiau. Yn amlwg, rydym yn ddiolchgar am y rhodd gan Welsh Slate, gyda’r ymateb yn gadarnhaol tu hwnt.”

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Welsh Slate, Chris Allwood: “Yr ydym yn falch i allu helpu i osod llechen newydd yn ei lle, sy’n boblogaidd ymhlith y cyhoedd.”