Fe fydd dyn yn mynd gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o ddinistrio plentyn yn dilyn ymosodiad “erchyll” ar ddynes feichiog.

Roedd Malorie Bantala, 21, a oedd 32 wythnos yn feichiog, wedi colli ei babi ac yn parhau mewn cyflwr difrifol yn dilyn yr ymosodiad ger ei chartref yn Peckham, de ddwyrain Llundain, nos Lun.

Dywed Scotland Yard y bydd Kevin Wilson, 20, o Stansfield House, Stad Longfield, de ddwyrain Llundain yn mynd gerbron ynadon Camberwell Green heddiw ar gyhuddiad o ddinistrio plentyn ac achosi niwed corfforol difrifol bwriadol.

Yn y cyfamser mae Gwasanaeth Ambiwlans Llundain wedi ymddiheuro ar ôl cyfaddef bod yr heddlu wedi gorfod mynd a Malorie Bantala i’r ysbyty eu hunain ar ôl aros am awr a 10 munud am ambiwlans.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans nad oedd y galwad 999 cyntaf yn cael ei ystyried yn un brys a’u bod yn ymchwilio i’r digwyddiad.

Dywed yr heddlu bod Malorie Bantala wedi cael ei gwthio i’r llawr gan ddau ddyn yn gwisgo helmedau beic modur, a oedd wedi cicio a sathru ar ei stumog.

Roedd nifer o bobl wedi gweld yr ymosodiad ac wedi mynd i helpu Malorie Bantala.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am lygad dystion a gwybodaeth.