Mae naw o bobl wedi cael eu lladd mewn eglwys Affricanaidd hanesyddol yn yr Unol Daleithiau ar ôl i ddyn arfog danio gwn yn ystod cyfarfod gweddi.

Mae’r dyn gwyn, sydd yn ei 20au, yn dal ar ffo ac mae’r awdurdodau yn disgrifio’r ymosodiad fel trosedd casineb.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Eglwys Emanuel AME yn Charleston yn ne Carolina. Dywedodd pennaeth yr heddlu Greg Mullen wedi dweud bod rhai wedi goroesi ond nid oedd yn fodlon cadarnhau faint, neu faint o bobl oedd yn yr eglwys adeg yr ymosodiad.

Mae Eglwys Emanuel yn eglwys hanesyddol Affricanaidd Americanaidd gyda’i gwreiddiau’n dyddio nôl i 1816.