Y teulu Dawood
Mae’r heddlu yn “pryderu’n fawr” am dair chwaer a’u naw plentyn sydd wedi bod ar goll ers dros wythnos, ar ôl derbyn gwybodaeth sy’n awgrymu eu bod wedi cyrraedd Syria.

Fe ddiflannodd Khadija Dawood, 30, Sugra Dawood, 34, a Zohra Dawood, 33, a’u plant ar ôl bod ar bererindod Islamaidd i Saudi Arabia ar 28 Mai.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gorllewin Swydd Efrog heddiw bod un o’r chwiorydd wedi cysylltu gan “awgrymu eu bod wedi croesi’r ffin i Syria.”

Credir bod eu brawd hefyd yn ymladd hefo IS a’i fod wedi eu perswadio i ymuno ag ef.

Roedd disgwyl i’r chwiorydd ddychwelyd i Bradford ar 11 Mehefin ond fe wnaethon nhw dorri pob cysylltiad gyda’u teulu ym Mhrydain ar 9 Mehefin.

Credir bod y plant, sydd rhwng tair a 15 oed, wedi teithio gyda’u mamau o Medina yn Saudi Arabia i Istanbwl yn Nhwrci – llwybr sy’n cael ei ddefnyddio’n gyson i deithio i Syria.

Ddoe, fe wnaeth rhai o ŵyr y merched gyhoeddi apêl emosiynol yn erfyn arnyn nhw i ddychwelyd i Bradford.