Craig Roberts, Edward Maher, a James Dunsby
Byddai tri milwr fu farw ar ôl gorboethi yn ystod ymarferiad SAS ar Fannau Brycheiniog wedi goroesi petai’r ymarferiad wedi cael ei atal, clywodd cwest heddiw.

Wrth roi tystiolaeth yn y cwest, dywedodd yr Athro George Havenith, sy’n arbenigwr ar orboethi, bod diffyg cynllunio o flaen llaw ynglŷn â’r driniaeth i filwyr yn ystod yr ymarferiad wedi cyfrannu at farwolaethau James Dunsby, Craig Roberts ac Edward Maher.

Dylai uwch-swyddogion fod wedi atal  yr ymarferiad am 12:14yp, cyn i’r tri milwr gael eu taro’n wael rhwng 2:16yh a 3:20yh, meddai’r Athro George Havenith.

Mae’r cwest eisoes wedi clywed fod milwyr eraill wedi dechrau dangos symptomau o orboethi yn ystod yr ymarferiad ar ddiwrnod poetha’r flwyddyn ym mis Gorffennaf 2013. O ganlyniad, ni ddylid fod wedi caniatáu i weddill y milwyr barhau gyda’r ymarferiad yn y gwres tanbaid,  ym marn yr arbenigwr.

“Fe fyddwn wedi disgwyl  y byddai’r Is gorporal Roberts wedi goroesi petai wedi cael ei atal rhag parhau gyda’r ymarferiad ar safle goruchwylio 5,” meddai George Havenith.

“Rwy’n sicr wrth bwyso a mesur yr hyn sy’n debygol, ac wrth ystyried fod awr rhwng y safle goruchwylio a phryd y bu i’r milwyr gael eu taro’n wael… mai bach iawn yw’r amheuaeth y byddai’r person hwnnw wedi goroesi.”

Bu farw Craig Roberts o Fae Penrhyn ac Edward Maher yn ystod y daith gerdded 16 milltir ar fynydd Pen y Fan, a bu farw James Dunsby yn yr ysbyty bythefnos yn ddiweddarach.

Mae’r cwest yn Solihull yn parhau.