Bernard Llewelyn, fu'n cymryd rhan yn y Brotest Newid Hinsawdd
Mae syrffiwr o Gaerdydd a ffermwr o Sir Gar ymysg miloedd o bobol sydd wedi bod yn lobio y tu allan i Senedd San Steffan yn Llundain heddiw, yn un o’r protestiadau mwyaf mewn hanes yn erbyn newid hinsawdd.

Yn benodol, mae’r ymgyrchwyr eisiau gweld Llywodraeth Prydain yn cefnogi cytundeb rhyngwladol ar newid hinsawdd, sy’n debygol o gael ei drafod ym Mharis ym mis Rhagfyr, a fydd yn anelu at roi stop ar lygredd tanwydd ffosil.

Mae’r protestwyr hefyd yn galw ar ASau i wneud yn siŵr bod cynllun gan y Cenhedloedd Unedig fydd yn cael ei drafod yn yr hydref yn adlewyrchu’r galw am weithredu yn erbyn newid hinsawdd.

“Mae newid hinsawdd yn fater pwysig i ffermwyr,” meddai Bernard Llewelyn sy’n ffermio yn Sir Gar ac sydd hefyd yn gadeirydd ar gorff NFU Cymru yn yr ardal.

“Rwy’n ymuno a’r lobi am fy mod i’n pryderu am yr effaith fydd yn ei gael ar ein ffermydd teulu a harddwch cefn gwlad Cymru. Os fyddwn ni’n gweithredu nawr, fe allwn ddarparu dyfodol llwyddiannus i’n ffermydd, yn lleol a rhyngwladol.”

Carthffosiaeth

Ychwanegodd Ffion Mathews, 23, sy’n ymuno a’r brotest ar ran Syrffwyr Yn Erbyn Carthffosiaeth: “Mae llifogydd mwy difrifol yn golygu bod carthffosiaeth yn llifo i’n moroedd, sy’n newyddion drwg ar gyfer pobol sy’n mwynhau chwaraeon dwr.

“Fe all y cynnydd yn nhymheredd y môr fod yn niweidiol iawn i fywyd gwyllt hefyd. Mae’n rhaid gweithredu nawr a chael gwared ar ynni budur o danwydd ffosil a buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy.”

Dywedodd trefnwyr y brotest, Y Glymblaid Hinsawdd, eu bod wedi derbyn ymateb cadarnhaol gan ASau ynglŷn â’r digwyddiad.