Cwmni Dobson and Crowther yn Llangollen
Mae’r newydd bod 79 o swyddi yn Llangollen yn y fantol wrth i gwmni argraffu fynd i’r wal yn “ergyd arall i’r ardal”, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Llŷr Gruffydd.

Mae cwmni Dobson and Crowther, sy’n cynhyrchu amlenni, bellach yn nwylo’r gweinyddwyr, ac mae’n dilyn penderfyniad archfarchnad Sainsbury’s i beidio agor archfarchnad ar hen safle’r cwmni yn y dref.

Mae’r cwmni’n brif gyflenwr amlenni hadau ar gyfer y sector garddwriaeth yng ngwledydd Prydain.

Fe fu’n 18 mis anodd i’r cwmni yn dilyn ad-drefnu a symud i leoliad newydd yn 2014 ar gyrion y dref.

Roedd ergyd i’r cwmni pan aeth cwmni Paperlynx – un o’i brif gyflenwyr – i’r wal ac roedd hynny wedi effeithio’n sylweddol ar gadwyn gyflenwi  Dobson and Crowther.

Oherwydd amodau ariannol a masnachu’r cwmni, nid oedd yn bosibl dod o hyd i brynwr.

Mae’n bosib y gallai’r cwmni barhau i fasnachu dan reolaeth y gweinyddwyr yn y tymor byr er mwyn cwblhau ei waith ac er mwyn rhoi’r cwmni mewn dwylo newydd.

‘Cyflogwyr da’

Mewn datganiad, dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru yng ngogledd Cymru, Llyr Gruffydd: “Mae hyn yn newyddion ofnadwy i’r 79 o weithwyr yno ac i Langollen yn gyffredinol.
“Roedd Dobson and Crowther yn cael eu hystyried yn gyflogwyr da yn lleol ac, er iddyn nhw golli cwsmer pwysig y flwyddyn ddiwethaf, roedd symud i’r safle newydd yn awgrymu fod pethau’n edrych yn addawol iddyn nhw.

“Rhaid gwneud pob dim yn awr i geisio canfod perchnogion newydd i’r busnes.

“Mae ganddynt weithlu ymroddedig gyda blynyddoedd o brofiad, ac rwy’n mawr obeithio y bydd y gweinyddwyr yn llwyddiannus wrth gynnal y busnes fel un gweithredol sy’n parhau i fasnachu”