Fe fydd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi 100 mlynedd ers dechrau Sefydliad y Merched wrth gyflwyno araith yng Nghaerdydd heno.
Ers ei gyfarfod cyntaf ym mis Medi 1915, mae’r sefydliad wedi tyfu i fod y mudiad gwirfoddol mwyaf i fenywod ym Mhrydain, gyda dros 212,000 o aelodau mewn 6,600 o ganghennau.
Dywedodd y Llywydd Rosemary Butler AC bod ffurfio’r grŵp wedi bod yn “allweddol i hyrwyddo cyfraniad menywod ym mhob agwedd ar eu bywydau.
“Mae’r sefydliad yn ffynhonnell gwybodaeth ac arloesedd hanfodol o ran hawliau menywod, ac mae ei fodolaeth yn aml yn fodd o gadarnhau arweinyddiaeth a chyfranogiad menywod.”
Bydd y Fonesig Rosemary Butler yn rhoi araith yn y Pierhead am 6yh.