Mae gyrrwr lori wedi cael ei arestio ar ôl i fwy na 25 o bobl, sy’n cael eu hamau o fod yn fewnfudwyr anghyfreithlon, gael eu darganfod yng nghefn ei gerbyd.

Daeth Heddlu Caergrawnt o hyd i’r bobl ar ôl cael gwybodaeth ynglŷn â lori oedd yn teithio i gyfeiriad y gogledd ar draffordd yr M11 heddiw.

Credir bod y lori wedi dod o Ffrainc a chafodd ei stopio ar yr A1 ger cyffordd Stamford.

Mae’r gyrrwr wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynorthwyo mewnfudwyr.

Cafodd parafeddygon eu galw i asesu tua 25 o bobl ar y safle a chafodd pump eu cludo i’r ysbyty.