Carwyn Jones
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol olaf cyn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mae mwy na 95% o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyflawni, neu ar y llwybr cywir i gael eu cyflawni.

Ond mae’r gwrthbleidiau wedi dweud na all “cyfres o fethiannau” Llywodraeth Lafur Cymru ar addysg ac iechyd gael eu hanwybyddu rhagor.

‘Uchelgeisiol’

Mae Carwyn Jones wedi dweud mai’r rhaglen, a gyflwynwyd yn 2011, oedd yr un mwyaf “uchelgeisiol a chynhwysfawr” ers datganoli a’i fod wedi bod yn llwyddiant er gwaetha’r “amgylchiadau ariannol” anodd.

Roedd y Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys 547 o ymrwymiadau unigol oedd yn cwmpasu’r gwasanaethau y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod pob un o’r prif ymrwymiadau wedi’u cyflawni’n gyfan gwbl yn y pedair blynedd diwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys:

–          Dyblu darpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg;

–          500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol newydd ar y strydoedd;

–          Oriau agor hwy mewn meddygfeydd;

–          Cynyddu gwariant ar ysgolion Cymru o leiaf 1% uwchlaw’r newid yn y grant gan Lywodraeth y DU ym mhob un o bum mlynedd y Cynulliad hwn;

–          Creu Twf Swyddi Cymru.

‘Ffyniannus’

Dywedodd Carwyn Jones: “Mae iechyd a gwasanaethau iechyd; cyrhaeddiad addysgol; twf a swyddi; cefnogi plant, teuluoedd a chymunedau difreintiedig wedi bod wrth galon popeth y mae’r llywodraeth hon wedi bod yn gweithio’n galed i’w gyflawni yn y pum mlynedd ddiwethaf.

“Ethos y llywodraeth hon yw na ddylai neb mewn cymdeithas gael ei adael ar ôl a bod gan bawb yr hawl i gael yr un cyfle i lwyddo. Drwy gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu uchelgeisiol, credaf ein bod wedi creu’r sylfeini ar gyfer Cymru sy’n gryfach, yn decach, yn iachach ac yn fwy ffyniannus.”

‘Hunanfoddhad llwyr’

Ond dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod methiannau Llywodraeth Cymru ar addysg yn debyg o adael cenhedlaeth o blant yng Nghymru y tu ôl i’w cyfoedion yng ngweddill y DU.

Meddai Kirsty Williams fod yr adroddiad blynyddol yn honni fod 48 o’r 49 o ymrwymiadau sy’n ymwneud ag addysg naill ai wedi cael eu cyflwyno, neu wedi cyrraedd eu targed, er bod hynny yn wahanol iawn i ganlyniadau Cymru yn y profion rhyngwladol PISA ac Adroddiad Blynyddol Estyn oedd yn amlygu pryderon o fewn ysgolion.

Dywedodd Kirsty Williams: “Os yw Gweinidogion Llafur yn credu eu bod yn llwyddo i gael ein gwasanaethau addysg mewn trefn, yna maen nhw’n twyllo’u hunain. Ond ni fyddan nhw’n twyllo pobl Cymru. Yn union fel ein Gwasanaeth Iechyd, mae pobl yn sylweddoli pa mor wael yw’r system addysg yng Nghymru o dan Lafur.

“I Lywodraeth sydd wedi bod mewn grym ers dros 16 mlynedd, mae hunanfoddhad llwyr y Blaid Lafur ar addysg yn wirioneddol syfrdanol.”

‘Darlun anghywir’

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood bod yr adroddiad yn rhoi darlun “anghywir” o berfformiad Llafur.

“O ran iechyd, does dim son am fethiant Llafur i gwrdd â thargedau amser ambiwlansys, amseroedd aros am driniaeth ganser, neu brofion diagnostig. O ran addysg, does dim son am fethiant Llafur i wneud cynnydd wrth geisio cau’r bwlch cyrhaeddiad. O ran yr economi, does dim son am fethiant Llafur i ostwng nifer y bobl ifanc sy’n ddi-waith, a chreu swyddi o safon uchel.

“Rydym yn wynebu Llywodraeth Lafur sydd wedi chwythu ei phlwc.”