Cofeb Hillsborough
Mae’r cwest i farwolaethau Hillsborough wedi clywed heddiw sut yr oedd dwy chwaer, oedd ymysg y 96 o bobol fu farw, wedi cofleidio ei gilydd wrth gael eu gwasgu gan y dorf.

Roedd Sarah Hicks, 19, a’i chwaer, Victoria, 15, yn sefyll y tu ôl i’r gôl yn adran Leppings Lane pan gychwynnodd y gêm, gyda’u mam mewn adran wahanol.

Dywedodd llygad dyst oedd yn sefyll y tu ôl i’r merched bod Sarah Hicks wedi ceisio gwarchod ei chwaer ynghanol y dorf. Yna fe waeddodd dyn o’i flaen “gwthiwch yn ôl, maen nhw mewn trafferth”, clywodd y cwest.

“Ond doedd dim byd allen ni’i wneud. Roedd o’n gofyn i mi, ‘plîs gwthiwch yn ôl’,” meddai’r llygad dyst Jeffrey Rex.

“Roedd y ferch ifanc yn cael ei dal gan ei chwaer. Roedd hi wedi’i hanafu’n ddrwg, roedd ei phen wedi gwyro i un ochr. Mae’n debyg mai hi oedd un o’r bobol gyntaf i gael eu heffeithio gan y wasgfa.”

Bu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl yng ngêm gynderfynol Cwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest yn 1989.

Mae’r cwest yn parhau.