Mae heddlu yng Nghaerdydd yn parhau i chwilio am ddyn 47 oed mewn cysylltiad â digwyddiad lle cafodd menyw ei thrywanu yn ardal Grangetown, Caerdydd ddydd Gwener ddiwethaf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad yn Heol Penarth am 10:30 fore dydd Gwener.

Ers hynny, mae’r heddlu wedi bod yn chwilio am Arnel Martinez Raymundo mewn cysylltiad ag ymgais i lofruddio.

Cafodd ei weld yn y maes parcio rhwng Ffordd Severn a Wyndham Crescent  yn ardal Treganna am 11:05yb yn gwisgo top llewys hir tywyll, trowsus tywyll a flip flops. Roedd wedi cael gwared â’i dop a gadael y maes parcio yn ddiweddarach.

“Rydym yn parhau i gadw meddwl agored ynglŷn â lle aeth o ar ôl hyn. Fe allai fod wedi parhau ar droed, wedi teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus neu wedi mynd mewn cerbyd arall,” meddai’r Ditectif Arolygydd Wendy Gunney.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu ar 101.