David Roberts
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth i geisio dod o hyd i ddyn sydd ar goll.

Cafodd David Roberts, 66, o Fachen ger Casnewydd, ei weld y tro diwethaf ddydd Iau, 11 Mehefin.

Mae’n 5’2″ – 5’4″ o daldra gyda gwallt byr llwyd. Credir ei fod yn teithio mewn Toyota lliw arian gyda rhif cofrestru CK06 RZB.

Yn dilyn ymholiadau cychwynnol, mae’r heddlu’n credu y gallai fod yn ardal Rhydychen.

Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud â lleoliad David Roberts yn cael eu hannog i ffonio 101 gan ddyfynnu rhif 156 14/06/15.