David Cameron
Mae David Cameron wedi dweud bod angen diwygio hawliau dynol yn y DU i “ddiogelu” etifeddiaeth y Magna Carta.

Roedd y Prif Weinidog yn siarad mewn seremoni, a fynychwyd gan y Frenhines a chynulleidfa o filoedd, i ddathlu 800 mlynedd ers creu’r ddogfen ddylanwadol.

Ar y safle yn Runnymede, ar 15 Mehefin, 1215, derbyniodd y Brenin John y ddogfen hanesyddol wnaeth gyfyngu grym y Goron a nodi hawliau cyfartal i bawb.

Dywedodd David Cameron fod y ddogfen yn parhau i fod yn rhan o “wead ein cenedl” ond cwynodd fod y syniad o hawliau dynol ym Mhrydain wedi cael ei  “dibrisio”.

Mae gan y Ceidwadwyr gynlluniau dadleuol i gael gwared a Deddf Hawliau Dynol yr Undeb Ewropeaidd a’i ddisodli gyda Bil Hawliau Prydeinig.

Er mai dim ond tri o gymalau’r Magna Carta sy’n parhau i fod yn rhan o gyfraith y DU hyd heddiw, fe wnaeth y ddogfen osod cynsail wnaeth ddylanwadu ar ddogfennau diweddarach gan gynnwys Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau a Datganiad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol.

Dywedodd David Cameron fod y Magna Carta wedi bod yn “chwyldroadol”, gan newid y cydbwysedd grym rhwng y rhai sy’n llywodraethu a’r rhai sy’n cael eu llywodraethu, am byth.