Mae o leiaf 23 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i ddau hunan-fomwyr ar feiciau modur ymosod ar ddau adeilad, gan gynnwys adeilad yr heddlu, ym mhrifddinas Chad, Affrica.

Yr ymosodiad yw’r cyntaf o’i fath yn Chad ers i wrthryfelwyr IS fygwth y wlad yn gynharach yn y  flwyddyn.

Mae amheuon mai Boko Haram sy’n gyfrifol y tro hwn.

Dywedodd llygad dystion bod un hunan-fomiwr wedi ffrwydro bom y tu allan i adeilad y llywodraeth yn y brifddinas N’Djamena, er bod swyddogion heddlu wedi ceisio ei atal trwy ei saethu’n farw.

Yn ogystal a’r bobol sydd wedi cael eu lladd mae dros 100 wedi cael eu hanafu.

Digwyddodd yr ail ymosodiad y tu allan i academi’r heddlu ar yr un pryd.