Tudur Owen
Mae’r comedïwr Tudur Owen wedi dweud ei fod yn “siomedig” fod S4C wedi penderfynu sensro rhegfeydd yn ei sioe stand-yp a gafodd ei darlledu dros y penwythnos.
Dywedodd Tudur Owen ar raglen Taro’r Post heddiw nad oedd yn ymwybodol o’r blîps tan ar ôl i’r rhaglen gael ei darlledu am 9yh nos Sadwrn.
Ychwanegodd petai’n ymwybodol y byddai’r blîps yn cael eu hychwanegu, ni fyddai wedi cynnig y rhaglen i’r sianel ac mi fyddai wedi addasu’r deunydd.
Yn ôl rheolau Ofcom, mae’n bosib darlledu rhegfeydd ar ôl 9 yr hwyr, ond fod angen gwneud hynny’n raddol wrth iddi fynd yn hwyrach.
Ymateb S4C
Dywedodd Rachel Evans, dirprwy gyfarwyddwr cynnwys a darlledu S4C eu bod nhw eisiau i sioe stand-yp Tudur Owen gael ei ddangos yn y slot orau yn yr amserlen ar nos Sadwrn.
Ychwanegodd fod y sianel yn meddwl bod nifer y rhegfeydd yn ormodol ar brydiau ar gyfer y darllediad a’u bod nhw’n ceisio “gofalu fod natur y cynnwys yn newid yn raddol, ac nid yn syth bin.”
Bydd y rhaglen yn cael ei dangos eto heb y blîps nos Fercher am 22:30. Mae’r sioe hefyd ar gael i’w gwylio ar alw ar wefan S4C heb y blîps.