Mae Ofcom wedi lansio ymchwiliad yn dilyn cwynion bod gwylwyr rhaglen deledu Britain’s Got Talent wedi cael eu “camarwain” gan sgets fuddugol Jules O’Dwyer a’i chi Matisse.
Cafwyd 1,150 o gwynion gan y cyhoedd, ar ôl i wylwyr ddarganfod fod dau gi tebyg yr olwg wedi cymryd rhan yn y sgets ac nad Matisse oedd wedi perfformio stỳnt fwyaf y noson.
Fe ddaeth Côr Glanaethwy o ardal Bangor yn drydydd yn y gystadleuaeth.
“Rydym wedi lansio ymchwiliad i benderfynu os cafodd gwylwyr Britain’s Got Talent ITV, wnaeth efallai dalu arian i bleidleisio, gael eu camarwain ynglŷn â’r gystadleuaeth,” meddai llefarydd.
Mae cynhyrchwyr y sioe eisoes wedi dweud y dylid bod wedi ei gwneud yn glir bod ci arall o’r enw Chase yn rhan o’r sgets.
Fe gafodd Jules O’Dwyer £250,000 am ennill ac fe fydd yn cael perfformio yn y Royal Variety Show.