Mae dynes o Swydd Derby gafodd ei charcharu am dynnu ei dillad ar ben mynydd sanctaidd ym Malaysia wedi ymddiheuro am ei hymddygiad.

Treuliodd Eleanor Hawkins dridiau dan glo a chafodd hi ddirwy o 5,000 Ringgit (£859).

Cafodd hi a thri o bobol eraill eu harestio am dynnu lluniau noethlymun ar ben mynydd Kinabalu.

Dywedodd ei thad Timothy fod y ddedfryd yn “briodol” ac yn “deg”.

Mae’r heddlu’n parhau i chwilio am nifer o bobol eraill maen nhw’n awyddus i’w holi.

Mewn datganiad, dywedodd: “Rwy ond am ddweud faint o ryddhad dw i’n teimlo a pha mor hapus ydw i fy mod i wedi dod adref.

“Dw i’n gwybod fod fy ymddygiad yn ffôl a dw i’n gwybod faint o sarhad wnaethon ni ei achosi i drigolion Sabah. Am hynny, mae’n flin iawn gen i.”

Dywedodd ei mam Ruth: “Mae hi’n gwybod fod yr hyn wnaeth hi’n anghywir ac yn amharchus, ac mae’n flin iawn ganddi am unrhyw sarhad gafodd ei achosi i bobol Sabah….

“Byddem yn hoffi pe bai Eleanor yn cael y cyfle i ymadfer nawr, felly byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe baech yn rhoi preifatrwydd i ni a’i galluogi hi i barhau â’i bywyd.”

Mae ymwelwyr wedi eu beio am ddaeargryn yr wythnos diwethaf a laddodd 18 o bobol.