Dewi Griffiths o glwb Harriers Abertawe groesodd y llinell derfyn gyntaf yn Hanner Marathon Abertawe y bore ma, gan dorri record am y ras.

Torrodd Griffiths y record ar gyfer y ras o chwe munud, gan orffen mewn 66 munud 48 eiliad.

Rhedodd Griffiths dros Gymru yn y 10,000 metr yng Ngemau Gymanwlad Glasgow, ond cafodd ei anafu yn ystod y ras.

Angus McLean oedd yn ail, a Josh Griffiths yn drydydd.

Emma Wookey ddaeth i’r brig yn ras y menywod, gan orffen mewn 77 munud 50 eiliad.

Mae enillwyr prif rasys y dynion a’r menywod yn derbyn £1,000 yr un.

Roedd gofyn i’r rhedwyr redeg drwy ganol y ddinas i gyfeiriad Y Mwmbwls, yna i SA1 cyn dychwelyd i ganol y ddinas.