Alex Salmond
Mae’r Torïaid yn sarhau pobl ifanc 16 ac 17 oed trwy wrthod rhoi hawl iddyn nhw bleidleisio yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl cyn-brif weinidog yr Alban, Alex Salmond.

Wrth annerch Senedd Ieuenctid yr Alban yn Erskine heddiw, dywedodd fod y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban y llynedd yn brawf o frwdfrydedd pobl ifanc.

“Mae’r ddadl dros bleidleisiau i bobl ifanc 16 ac 17 oed wedi cael ei ddangos yn refferendwm yr Alban,” meddai.

“Mae honiadau nad oes gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth neu nad ydyn nhw’n deall materion cyfansoddiadol wedi cael eu chwalu’n llwyr gan gyfraniad mawr pobl ifanc yr Alban yn ystod yr ymgyrch.”

‘Chwerthinllyd’

Dywedodd hefyd fod yr amrywiaeth mewn oedran pleidleisio rhwng gwahanol etholiadau yn gwbl annerbyniol.

Fe fydd rhai o bobl ifanc yr Alban a oedd yn 16 oed y llynedd wedi cael pleidleisio yn refferendwm yr Alban y llynedd, ond nid yn yr etholiad cyffredinol eleni. Fe fyddan nhw’n cael pleidleisio yn etholiad senedd yr Alban y flwyddyn nesaf, ond nid yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd os bydd hwnnw hefyd yn gynnar y flwyddyn nesaf.

“Mae’n sefyllfa chwerthinllyd sy’n dangos y diffyg dychymyg sy’n nodweddu’r Blaid Geidwadol ar ei gwaethaf a’u blaenoriaeth barhaus i’w hunan les,” meddai.

“Mae’n crisialu trahaustra’r Torïaid ac ni fydd y sarhad i bobl ifanc yn cael ei anghofio na’i faddau.”